•   Berwyn Nature Reserve
  •   Wildlife walk - with the Lake Warden
  •   Canada geese over Bala Lake (Llyn Tegid)
  •   Many areas of mature Woodland to explore

Gwarchodfeydd Natur a Choedwigoedd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru


Ceir digonedd o fywyd gwyllt yn ardal y Bala yn rhannol oherwydd  y daeareg  a’i hinsawdd amrywiol. Mae nifer o warchodfeydd  a coedwigoedd ynghyd  a chanolfannau ymwelwyr, teithiau a gwlyptiroedd iw canfod.

Oherwydd ei bwysicrwydd dynodwyd llawer o’r llefydd hyn gan bod ei bywyd gwyllt  mor gyfoethog. Yn agos i’r  Bala mae:

  • Llyn Tegid - sef ardal “Ramsar”  o bwysigrwydd rhyngwladol.
  • Coedwig Penllyn yn gymysgedd o goed a gweundir. Dyma goedwigoedd dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru  sy’n cynwys Y Wenallt, Celyn , Aberhirnant  a Phenaran.
  • Ardal Cadwraeth Arbennig y  Migneint – Arennig – Dduallt  gan gynnwys mynyddoedd, gweundir , gorgors  a  gwelltdiroedd.
  • Mynyddoedd y Berwyn sydd wedi ei ddynodi fel Gwarchodfa Natur Cenedlaethol a Safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
  • Gwarchodfa natur  Cors y Sarnau sydd yn gynefin prin.

 

Dyma rai  engreifftiau y galwch ymweld a nhw heb fod ymhell o’r Bala

Llyn Efyrnwy a’i Ganolfan Ymwelwyr (ffôn 01691 870278)

Yn y bryniau o gwmpas  y  cronfa ddŵr  mae llwybrau cerdded niferus ac ar lan y dŵr  y mae cuddfannau i wylio adar. Y Gymdeithas Gwarchod adar sy’n rheoli ‘r  tir . Yma gellir gweld adar megis y croes bîg , cigfran, Boda tinwen a Mwyalch y mynydd .

Yn ogystal  gallwch  logi  beics  neu  cymeryd  rhan  mewn  gweithgareddau  ar y dŵr. Beth am fynd o gwmpas y llyn un ai ar droed neu ar gefn beic?(12 milltir)

 

Cronfa Ddŵr y Brenig a’r ganolfan ymwelwyr (01490 420463)

Amgylchynir  Llyn Brenig gan 920 erw o  goed a gweundir . Fe’i leolir  ar  fynydd Hiraethog.  Gweithgareddu : Cerdded (10 milltir o gwmpas y llyn) , llwybrau natur a hanes, gweithgareddau ar y dŵr , pysgota, cuddfannau i wylio adar a man chwarae i blant. Yma hefyd mae ‘r ganolfan ymwelwyr gyda caffi ac arddangosfa  sy’n olrhain hanes yr ardal. Yn agored :10:30- 16:30 yn ddyddiol rhwng Mawrth a Hydref. I fynd yno dilynwch y B4501 o Gerrig y Drudion.

 

Gwarchodfa Coed Garth Gell (ar y Fawddach)

Yn y bryniau ar ochor ogleddol y Fawddach heb fod yn bell o Lyn Penmaen.  Yn y gwanwyn a’r haf dyma le delfrydol i weld adar megis y gwibedog brith, y tingoch a thelor y coed. Yma hefyd gallwch weld clychau glas a gloynnod byw fel y britheg. Yn ystod y gaeaf mi allwch weld y Pila gwyrdd,  y llinos bengoch, y gylfin braff  a’r cnocell frith leiaf. I hwyluso eich cylchdaith o gwmpas y warchodfa gallwch gerdded ar olion hen dramffordd y gwaith aur a fu.

 

Cors Arthog (Mawddach)

Gwlyptir wedi ei leoli rhwng Arthog a’r Friog. Cerddwch o orsaf rheilffordd Morfa Mawddach . (mae mynediad yma i’r anabl).  Rhan o’r hen gyforgors  ydyw a oedd unwaith yn gorchuddio’r aber. Mae’n doreithiog o flodau a creaduriaid gan gynnwys yr iris felen , Cywarch ,Brenhines y weirglodd , charpiog y gors, ffa’r gors a’r llafnlys mawr.

 

Gwlypdiroedd  Wnion Mawddach

Ar ochor  ddeheuol aber y Fawddach ac i’r gorllewin o gymmer yr afon wnion mae ardal o wlyptir sy’n gynefin cyfoethog . Mae’r safle yn agos i lwybr Mawddach rhwng Pont y Werddu a Llyn Penmaen gyda mannau parcio a llwybrau.

 

Coed y Brenin a’r Ganolfan Ymwelwyr

Un o’r llefydd gorau ym Mhrydain  ar gyfer beicio mynydd. Yma ceir llwybrau aml ddefnydd , lle chawrae i blant  a chaffi gyda golygfeydd gwych.Am fwy o wybodaeth ewch at wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r maes  parcio a’r ganolfan yn ymyl yr A470 y tu allan i bentref y Ganllwyd.

 

Cerdded yng Nghoedwig Dyfi

I’r de o Gadair Idris ac o fewn  cymunedau  Machynlleth, Corris, Ceinws, Dinas Mawddwy, Pennal ac Aberangell.

Yn y goedwig mae cymysgedd o gynefinoedd a rhywogaethau iw canfod. O gwmpas yr hen weithfeydd mae’r adeiladau , adfeilion a ceudyllau yn bwysig i blanhigion ac anifeiliaid gan gynnwys ystlumod. Y bywyd gwyllt hwn sy’n gwneud yr ardal mor  diddorol i ymweld a hi.

 

Cewch ddewis o lwybrau : er engraifft

  • Nant Gwernol yn ymyl Abergynolwyn
  • Tan y coed  ger Corris
  • Foel Friog ger Corris

 

Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Dyfi (Cors Gôch)

Canolfan ymwelwyr a thaflenni manwl i’ch cyflwyno i’r warchodfa. Gallwch ymweld a’r twyni tywod a’r gors ar rwydwaith o lwybrau