Bala and Penllyn Historical Timeline

timeline


Tua 470 miliwn ml yn ôl

Ffurfio Hollt Daearegol y Bala-Talyllyn. Mae Llyn Tegid a dyffryn Dyfrdwy yn gorwedd ynddo.

Oes yr Iâ, tua 10,000ml yn ol

Credir mai dyma’r adeg i bysgodyn y gwyniad gael ei gaethiwo i Lyn Tegid. Dim ond yma y mae i’w gael.

Oesoedd Efydd, Haearn

Llwythau Celtaidd oedd yn byw yma cyn y cyfnod Rhufeinig. Mae olion eu ceyrydd i’w gweld o hyd a sawl enw lle yn dyddio o’r cyfnod hwnnw, ee Caer Euni.

75-150 OC

Y Rhufeiniaid yng Nghaergai, Llanuwchllyn, is-gaer i’r 20fed Lleng â’i phencadlys yng Nghaer (Castra Deva).

410

Y Rhufeiniad yn gadael Ynys Prydain

6ed G

Sefydlu eglwysi yn Llanycil (Sant Beuno) a Llanfor (Sant Deiniol).

1066

Gwilym Goncwerwr o Normandi yn gorchfygu Lloegr. Ymosodiadau ar Gymru o Gaer, Amwythig a Henffordd.

tua 1100

Y Normaniaid yn codi castell tomen a beili yn y Bala (Tomen y Bala).

1202

Llywelyn Fawr yn disodli Elise ap Madog Arglwydd Penllyn, a gwneud Penllyn yn rhan o Wynedd.

1282

Lladdwyd Llywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri.

1310

Sefydlu tref weinyddol yn y Bala gan Roger Mortimer i reoli anhrefn. Rhoddwyd Siarter i’r dref Chwefror 1311. Codwyd adeilad gwreiddiol Neuadd y Dref yn fuan wedyn.

1324

Ail Siarter yn gwneud y Bala yn fwrdeisdref rydd â hawl i ethol maer a dau feili, i gynnal carchar, marchnad wythnosol a dwy ffair flynyddol a gynhelir hyd heddiw ym Mai a Hydref.

1400-15

Gwrthryfel Owain Glyndwr dros annibyniaeth i Gymru. Yn 1414 boneddigion lleol yn ildio i swyddogion y Brenin yn y Bala.

1485

Gorchfygwyd Richard III gan Harri Tudur ar faes Bosworth. Aeth mintai o filwyr lleol dan arweiniad Rhys ap Maredudd i ymladd gyda Harri a goronwyd yn Harri’r VII.

1536

Syr Robert ap Rhys yn derbyn rhodd o diroedd gan Harri VIII am wasanaeth teuluol teyrngar. Sefydlu Stâd y Rhiwlas.

18fed a’r 19eg ganrif

Y diwydiant gwlân yn bwysig iawn a gweu sanau cartref yn gynhaliaeth i bobl yr ardal.  Gwnaed hosannau i Siôr III oherwydd ei fod yn dioddef o’r crydcymalau ac, yn ddiweddarach, i’r Tywysog Albert. Erbyn 1830au gwerthid 32,000 dwsin o barau o sanau a 5,500 dwsin o barau o fenyg gwlan.

1700

Plas yn Dre oedd y tŷ mwyaf. Cartref teulu enwog yn hannu o Lwydiaid Rhiwaedog a Rhirid Flaidd.

1713-4

Sylfaenu Ysgol Tŷ Tan Domen (yr hen Ysgol Ramadeg) trwy ewyllys Edward Meyrick

1737

Ymneilltuaeth yn dod i’r Bala. Cyfarfodydd crefyddol yn nhafarn y Cross Keys, Llanycil.

1757

Adeiladu capel Methodistaidd cyntaf y Bala ar safle gerllaw Capel Tegid heddiw.

1760

Cynnal Eisteddfod yn nhafarn Yr Hen Ben Tarw.

1789

Geni Elizabeth Davies (Betsi Cadwaladr) a fu yn ystod blynyddoedd diweddar ei hoes yn nyrs yn Balaclava adeg Rhyfel y Crimea. Teithiodd y byd yn ystod ei hoes.

1800

Mari Jones yn cerdded 25 milltir yn droednoeth i’r Bala i chwilio am Feibl gan y Parch Thomas Charles. Daeth ef yn aelod o’r grwp a sefydlodd Gymdeithas y Beibl yn Llundain yn 1804.

1838–41

Undeb y Bala yn adeiladu tloty i dlodion pum plwy Penlllyn. Bu cryn wrthwynebiad i’r weithred. Agorwyd adeilad mwy yn 1878 ar safle’r ganolfan feddygol heddiw.

1858

Adeiladu Eglwys Crist yn ychwanegol at eglwys y plwy, Llanycil

1858

Geni Syr O M Edwards yn Llanuwchllyn - hanesydd, diwygiwr addysg Gymraeg ac awdur toreithog.

1865

Michael D Jones, gweinidog annibynnol ac athro, yn trefnu’r ymfudiad cyntaf o Gymru i Batagonia yn y llong Mimosa. Hyd heddiw mae Patagonia yn arddel yr iaith Gymraeg a’r diwylliant.

1867

Dechrau adeiladu Coleg y Bala -  athrofa i ddarparu addysg gyffredinol ac i hyfforddi gweinidogion y Methodistiaid Calfinaidd hyd at 1953. Heddiw mae’n Ganolfan Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru

1868

Agor rheilffordd Rhiwabon i’r Bermo. Cwmni Rheilffordd Bala a Dolgellau oedd yn gyfrifol am y rhan oedd yn croesi trwy Benllyn.

1882

Agor Rheilffordd Y Bala – Ffestiniog a gorsaf drên newydd i’r Bala yn cymryd hanner hen “Green” y dref.

1886

Ethol Tom Ellis, mab i denant fferm yn AS Rhyddfrydol dros Feirionnydd. Dadorchuddiwyd ei gofgolofn ar y Stryd Fawr ar  Hydref, 1903.

1889

Ymwelodd y Frenhines Victoria ag ardal Penllyn gan gynnwys tref y Bala. Daeth ar y Tren Brenhinol i Landderfel. Bu’n aros ym mhlasdy’r Pale. Enwyd llwybr ar lan yr afon Ddyfrdwy ac adeiladwyd Neuadd Buddug yn y Bala i nodi’r achlysur.

1915

Sefydlu gwersyll i garcharorion rhyfel o’r Almaen yn hen waith wisgi Frongoch.

1916

Carcharu gwrthryfelwyr Gwyddelig am wyth mis yng ngwersyll Frongoch yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn. Dyma’r lle y ffurfiwyd yr IRA.

1920

Adroddiad cyntaf am weld anghenfil yn nŵr Llyn Tegid!
Er i sawl un honni ei weld ni phrofwyd erioed ei fodolaeth.  

1922

Syr Ifan ab Owen Edwards yn sylfaenu mudiad plant ac ieuenctid Urdd Gobaith Cymru. Ganwyd ef yn Llanuwchllyn.

1943

Damwain awyren B17 Flying Fortress ar Arenig Fawr. Gwelwyd hyd yn ddiweddar weddillion ar y llethr 300m o’r gofeb ar y copa.

1947

Llyn Tegid yn rhewi’n gorn yn ystod gaeaf caled.

1948

Agor Eglwys Gatholig y Bala yn Mehefin a’i chysegru i Fair Fatima.

1955

Corfforaeth Lerpwl yn penderfynu adeiladu cronfa ddwr yn Nhryweryn.

1963

Llyn Tegid yn rhewi eto.

1964

Cau rheilffordd Riwabon i’r Bermo.

1967

Merched y Parc yn gadael Sefydliad y Merched a ffurfio mudiad Merched y Wawr - mudiad Cymraeg i ferched Cymru.

1967

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i’r Bala am y tro cyntaf. Gosodwyd Cylch yr Orsedd ar Green y Bala i seremoni’r cyhoeddi 1966.

1971

Lein gul ar ochrau’r llyn yn cael ei hagor gan Rheilffordd Llyn Tegid Cyf, y cwmni cyntaf i’w gofrestru yn Gymraeg.

1974

Digwyddiad o ddirgelwch ar fynydd y Berwyn. UFO? Nifer o drigolion yr ardal yn llygad-dyst i oleuadau rhyfedd a daeargryn. Yn ôl arbenigwyr meini mellt a welwyd a chadarnhawyd daeargryn 4 – 5 Graddfa Richter.

1981

Cynnal Pencampwriaeth Canwio Slalom y Byd ar afon Tryweryn am y tro cyntaf ym Mhrydain.

1995

Llong danfor mini o Japan yn gwneud archwiliad o wely  Llyn Tegid.

1995

Pencampwriaeth y Byd Rasio Dŵr Gwylt.

1998

Ail-ddarganfod malwoden brin yn y llyn.

2002

Cynnal Pencampwriaeth Cyntaf Treialon Cŵn Defaid Agored y Byd yn y Bala.

2002

Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd Rasio Dŵr Gwyllt ar Afon Tryweryn

2009

Elin Haf Davies o’r Parc yn aelod o’r tim cyntaf o ferched i rwyfo ar draws Cefnfor India. Yn 2005 hi oedd y Gymraes gyntaf i rwyfo Cefnfor Iwerydd.