Gwybodaeth am fywyd gwyllt yr ardal
Yn ne’r Parc Cenedlaethol yn ardal Penllyn Meirionnydd mae digon o fywyd gwyllt iw ganfod. Yma mae Gwarchodfa Natur Cenedlaethol y Berwyn ac wrth gwrs Llyn Tegid a’i wlyptir sydd o bwys rhyngwladol. Mae mynyddoedd y Berwyn i’r de o’r Bala yn ardal bwysig ar gyfer adar fel y Boda Tinwen, y Gwalch bâch, yr Hebog tramor a’r Barcud côch . Heb fod ymhell o’r ardal gallwch ymweld a gwarchodfeydd y Gymdeithas Gwarchod Adar i weld adar megis Gwalch y Pysgod.
Mae cyfoeth o fywyd gwyllt a phlanhigion i’w gweld yn Llyn Tegid . Mae’r llyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (Soddga/SSSI) . Mae’r llyn ei hun yn gartref i 14 rhywogaeth o bysgodyn , yn cynnwys y Gwyniad, pysgodyn gwyn sy’n unigryw i Lyn Tegid. Mae glannau’r llyn yn gartref i’r falwen ludiog, a dyma’r unig fan y’i gwelir yn y Deyrnas Unedig. Mae dyfrgwn hefyd i’w gweld yn Llyn Tegid drwy gydol y flwyddyn. Mae’r isafonydd a’r nentydd hefyd yn cynnig digonedd o fwyd a chynefinoedd magu i’r dyfrgwn. Gwarchodir Llyn Tegid gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – am fwy o wybodaeth galwch i mewn yn swyddfa’r Warden ar lan y llyn .
Ar yr afon Glaslyn gallwch ymweld a Phont Croesor i gael cip ar Gwalch y pysgod. Tua’r de ar yr afon Mawddach yn Llynpenmaen mae gan y Gymdeithas Gwarchod Adar man gwylio unigryw iawn sef yr hen focs signal. Yn yr un un ardal mae’r Gymdeithas yn rheoli Coed Garth Gell a Chors Arthog.
Ym Mlaenau Ffestiniog cewch weld y Frân Goesgoch yng nghyffiniau ceudwll Llechwedd ar deledu cylch cyfyng.
Rheolir Gwarchodfa Natur Cenedlaethol y Berwyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Yn amgylchynnu’r warchodfa mae ardal ehangach a ddynodwyd yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (Soddga/SSSI) sydd yn ymestyn dros 24,000ha. Mae’n ardal hynod o fynydd a gweundir sy’n ymestyn o Langollen yn y gogledd hyd at Mallwyd yn y de.Dyma ardal delfrydol ble mae nifer o adar yr ucheldir yn nythu.
Yn y coedwigoedd ar y llethrau mae’r wiwer gôch yn dal ei thir ac hefyd mae’n debyg y Bela prin.
Mae mynyddoedd y Berwyn yn arbennig am:
Y Gorgors
Y gorgors a geir yma sy’n gorchuddio’r mynydd a’r gwastadeddau’r ucheldir. Oherwydd ffurf y dirwedd mae’r corsydd hyn yn dal dŵr drwy gydol y flwyddyn ac yn ei tro yn gynefin i blanhigion nodweddiadol megis y migwyn, Plu’r gweunydd, Rosmari’r gors a “mwyar y Berwyn” (Rubus chamaemorus). Yma mae dyfnder y mawn a grewyd dros filoedd o flynyddoedd yn adlewyrchu ac yn nodi’r newid a fu yn yr hinsawdd ar hyd yr oes.
Rhostir Sych
Ar y llethrau serthaf yn gymysgwch o rug a llus.
Adar yr Ucheldir
Y Berwyn yw un o’r mannau pwysicaf yng Nghymru am ei adar. Mewn ardaloedd eraill mae’r adar sy’n nythu yn yr ucheldir wedi diflannu gan bod y cynefinoedd wedi ei newid drwy goedwigo ac amaethu.
Adar nodweddiadol yr ucheldir:
Y Gwalch Bâch
Y Boda tinwen
Yr Hebog Tramor
Y Barcud Côch
Maent o bwys mawr nid yn unig yma ond hefyd yn rhyngwladol. Dyma rai o adar eraill y Berwyn.
Y Grugiar Gôch
Y Grugiar Ddu
Y Cwtiad Aur
Y Giach
Y Gylfinir
Y Dylluan Glustiog(byr)
Crec yr eithin
Clochdar y Cerrig
Mwyalch y Mynydd
Y Gigfran
Mae nifer o’r rhain ar y mynydd drwy gydol y flwyddyn. Maent yn ddibynnol ar y mynydd i hela ac i fwydo’r cywion.
Nodir y canlynol fel cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt.
Clogwyni
Clogwyni a hen chwareli am adar fel Mwyalch y Mynydd , yr Hebog Tramor a planhigion fel y Briweg.
Coedwigoedd
Gan gynnwys ymylon y coed sy’n bwysig i’r Grugiar Ddu. Yma hefyd ceir y gwyfyn prin – y Cliraden Cymreig sydd yn hoff o hen goed bedw.
Glaswelltir
Ardaloedd eng o laswelltir heb ei wella’n amaethyddol ynghyd a’r gorgors, llynoedd, nentydd, prysgwydd a rhedyn. Y cymysgwch yma o gynefinoedd sydd mor bwysig i ecoleg yr ucheldir yma.
Am ddigwyddiadau yn yr ardal ewch i wefan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Ei gweledigaeth yw i weld Cefngwlad sy’n doreithiog o fywyd gwyllt a sydd ar gael i bawb ei fwynhau.