•   Maddach Estuary
  •   Harlech Beach - with the mountains of Snowdonia as a back drop
  •   Aberdovey on the Dovey Estuary
  •   Mawddach Estuary and Cader Idris

Coastal areas of North and Mid Wales

An overview of the coastal areas of North and Mid Wales


Ardal Abermaw (Y Bermo) a Fairbourne yw’r agosaf i’r Bala,maent i’w canfod wrth yrru ar hyd aber godidog yr afon Fawddach.  I’r Gorllewin mae Bae Ceredigion gyda mynyddoedd Eryri fel cefndir.  Mae’r Bae cysgodol hwn yn lle ardderchog i ddefnyddio cychod ac os yn ffodus gallwch weld morloi neu ddolffin.  Mae tair aber afonydd mwyaf Eryri yn hawdd i’r cyrraedd o’r Bala.  Ychydig ymhellach mae Penrhyn Lleyn - ardal arall o harddwch naturiol rhagorol - a mae cyrchfannau Gogledd Cymru - i gyd o fewn cyrraedd am ddiwrnod allan.

Abermaw (Y Bermo)

Cyrchfan lan y môr fywiog yn dyddio o oes Victoria yw’r Bermo.  Rhed y traeth tywodlyd, hir o’r porthladd tlws i gyfeiriad y Gogledd.  Tu ôl i’r dref mae clogwyni y Rhiniogydd.  Mae amgueddfa bad achub i’w chael yn ogystal a charchar a ddefnyddiwyd yn y 1700au i garcharu llongwyr meddw!

Fairbourne

Cyrchfan fechan ar Fae Ceredigion yw Fairbourne, mae’r traeth tywodlyd yn 2 filltir o hyd a cheir pyllau creigiog bob pen iddo.  Mae maes parcio ar lan y môr ar gyfer ymwelwyr.  Ym misoedd yr haf gwaherddir cŵn ar ran ganolog y traeth, serch hynny mae digon o le i gerddwyr cŵn naill ochr i’r man lle y’i gwaherddir.  Rhed trên bach y “Fairbourne & Barmouth Steam Railway” drwy ganol y pentref ac ar hyd yr arfordir i Bwynt Penrhyn. Mae modd dal y trên bach i Bwynt Penrhyn, croesi ar y fferi i’r Bermo a dychwelyd ar droed neu ar y Rheilffordd Brydeinig ar draws pont y Bermo.    

Mochras

Mae Mochras (Shell Isalnd yn Saesneg) 7 milltir i’r Gogledd o’r Bermo a 3 milltir i’r De o Harlech, trowch i’r Gorllewin ym mhont Llanbedr a dilynwch ffordd yr arfordir am 1½ milltir i’r sarn.  Mae 200 math o gregyn, blodau gwylltion sy’n cynnwys 13 math o degeirian i’w cael gyda llawer o adar a golygfeydd eang.  Mae traethau tywodlyd lle y gellir pysgota, hefyd mae bwyty ar gael gyda tafarn, siop ac archfarchnad.  Agorir o Fawrth i Dachwedd a mae tâl mynediad i’w dalu.      

Penrhyn Lleyn

O edrych ar y map mae Penrhyn Lleyn yn pwyntio allan o Eryri i gyfeiriad yr Iwerddon.  Mae ei arfordir yn llawn o wrthgyferbyniadau, o draethau hir i gilfachau bychain, baeau agored a thraethau ansathredig creigiog a mae’r than fwyaf yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Ei canolfannau gwyliau mwyaf poblogaidd yw Aberdaron, Abersoch, Criccieth, Nefyn a Phwllheli.  Saif castell Criccieth uwchben dau draeth yn edrych ar draws y bae i gyfeiriad Ardudwy.  Yn ogystal a thraethau tywodlyd mae marina gyfoes ym Mhwllheli, tra bod Abersoch yn gyrchfan fechan brysur ac yn ganolfan hwylio.  Mae bythynnod gwyngalchog Aberdaron yn edrych dros bentiroedd gwylltion a thraeth tywodlyd, tra bod Nefyn yn sefyll uwch dau draeth tywodlyd sydd yn cyrraedd hyd at bentref bychan arfordirol Porthdinllaen.

Cyrchfannau Arfordirol Gogledd Cymru

O Gonwy i Brestatyn mae’r arfordir tywodlyd yn lle poblogaidd i ymwelwyr â glan y môr.  Yn y bedair prif gyrchan - Bae Colwyn, Llandudno, Prestatyn a Rhyl - mae sawl atyniad traddodiadol a chyfoes i ddiddanu pob oedran.  O fewn y fformwla hyn mae digon o amrywiaeth.  Llandudno yw Brenhines urddasol y cyrchfannau Cymreig, mae cymeriad Victorianaidd y dref wedi goroesi.  Mae golygfeydd ysblennydd i’w cael o’r promenâd sydd wedi ei gosod rhwng dau bentir.  O’r Gogarth uwchben y dref ceir golygfeydd arbennig o Eryri a Môn ac amryw atyniad arall.  Yn agos mae tref hanesyddol Conwy wedi tyfu o gwmpas ei chastell hynafol a’i glanfa darluniadol a thlws.  

Ym Mae Colwyn nepell o Landudno mae cymeriad mwy lliwgar; yn y bryniau coediog uwchben y traeth mae sw enwog “Colwyn Bay Mountain Zoo”.  Mae Rhyl yn cynnig atyniadau mwy modern fel y “Skytowwer” a’r “Sun Centre” sydd yn braf beth bynnag yw’r hin.  Mae Prestatyn yn byrlymu gyda cymysgfa o atyniadau amrywiol yng Nghanolfan “Nova” yn ogystal a thraethau godidog.                                         

Casglwyd y wybodaeth gan Bryniau Golau a Tŷ Gwledig a Bythynnod Abercelyn