Tref farchnad hanesyddol ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw Y Bala. Wedi ei amgylchynu gan y mynyddoedd, mae’r rhanbarth wledig unigryw o Benllyn hefo hunaniaeth a diwylliant Cymreig chryf iawn.
Mae’r ardal yn gartref i olygfeydd godidog hefo mynyddoedd yn cyraedd dros 3000 o droedfeddi, dyffrynoedd dyfn, afonydd, rhaeadrau, coedwigoedd a llawer o lynnoedd a chronfeydd dwr.
Mae prif fynyddoedd Penllyn - Yr Aran, Arenig a’r Berwyn yr un mor rhyfeddol a’r eraill yn Eryri, ond llai prysur felly gellir dadlau bod y profiad yn un mwy gwyllt a heddychlon. Mae’r canoedd o filltiroedd o lwybrau cerdded yn rhoi mynediad i rai o’r lleoliadau mwyaf anghysbell ac ysblenydd yn y wlad.
Mae’r ardal yn byrlymu gydag afonydd yn llifo o fynyddoedd rhyfeddol i greu llynoedd hardd. Llifa’r Tryweryn a’r Ddyfrdwy naill ochr i’r Bala i greu Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru. Boed yn hwylio, canwio, nofio awyr agored neu bysgota brithyll byddwch yn siwr o ddarganfod safle yn y fan hyn.
Ar gyfer y beicwyr, mae llawer o lwybrau anhygoel dros bylchau a mynyddoedd uchel, gan gynnwys Bwlch y Groes (1,800 troedfedd / 545m). Yn ogystal a’r beicio mynydd naturiol gerllaw, mae hi hefyd yn rhwydd i ymweld a rhai o’r llwybrau beicio mynydd gorau yn y byd sy’n agored i’w defnyddio drwy’r flwyddyn.
Yn 2017, enwodd Lonely Planet Gogledd Cymru fel un o’r ardaloedd gorau i ymweld yn y byd ac mae’r Bala a Phenllyn yn leoliad perffaith i ymweld a’r atyniadau sydd gan Gogledd Cymru a’r canolbarth i’w gynnig yn cynnwys traethau, gwarchodfeydd natur, gerddi, cestyll, chwareli, amgueddfeydd, canolfannau ymwelwyr a llawer o reilffyrdd hanesyddol.
Mae’r Gymraeg i’w glywed ar draws yr ardal gyda’r mwyafrif o’r trigolion yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf. Byddwch yn sicr o gael croeso Cymreig yn y rhanbarth bob tro.
Boed yn gyffro, ymlacio, nofio awyr agored neu fynydda, mae rhywbeth i bawb a cewch groeso cyfeillgar yma. Bydd trigolion lleol sydd wedi ei magu yn yr ardal yn aml yn cymeryd eiliad i werthfawrogi’r hyfrytwch naturiol o’i cwmpas. Gobeithiwn eich gweld yma’n fuan
Newyddion
Dewiswch o amrywiaeth eang o fathau o lety