Bala & Penllyn Tourism Association

Cymdeithas Dwristiaeth y Bala a Phenllyn


Mae Cymdeithas Dwristiaeth y Bala a Phenllyn yn bodoli i hyrwyddo twristiaeth yn ardal y Bala a Phenllyn drwy hysbysebu a rhoi cyhoeddusrwydd i dwristiaeth yn yr ardal, i ddatblygu a marchnata y Bala a Phenllyn fel ardal i ymweld â hi er budd yr economi leol.

Cychwynnwyd y Gymdeithas fel is-bwyllgor o Antur Penllyn, y corff oedd yn gyfrifol am ail-eni a diwygio’r ardal.  Mae croeso i unrhyw un sydd a diddordeb yn llwyddiant twristiaeth yn ardal y Bala a Phenllyn i ymuno a chefnogi  amcanion y Gymdeithas, nid yw perchnogaeth busnes twristiaeth yn angenrheidiol.

Trefniant gwirfoddol a di-elw yw’r Gymdeithas a’i nod yw gwasanaethu y gymuned leol a busnesau twristiaeth yr ardal.

Swyddogion y Gymdeithas yw:

  • Cadeirydd: Jonathan Smith
  • Ysgrifennydd: Linda Woodrich
  • Trysorydd: John Bisby

Mae aelodau’r Gymdeithas yn cynnwys rhai sydd a chysylltiad â lletya, atyniadau, gweithgareddau, tai bwyta a siopau.

Mae’r Gymdeithas yn cyfarfod fel arfer yn fisol a mae croeso i’r sawl sydd a diddordeb fynychu cyfarfod cyn ymuno.

Mae’r Gymdeithas yn sefydlu is-bwyllgorau ar faterion neilltuol a datblygwyd y wefan hon gan yr is-bwyllgor marchnata.

Pam ymuno gyda'r Cymdeithas Twristiaeth y Bala a Phenllyn?

  • Aeloaeth £70.00 yn cynnwys rhestru manylion ar y wefan
  • Cynorthwyo a hybu y Bala a Phenllyn fel cyrchfan twristiaeth
  • Partneriaeth Gymunedol gweithio gyda’n gilydd
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd marchnata a gofal cwsmeriaid yng Ngwynedd
  • Cyllid uwch ar gyfer eich busnes
  • Cyfleoedd Hyfforddiant
  • Siaradwyr Gwadd
  • Codi arian ar gyfer prosiectau lleol
  • Mynediad am ddim i Ardd Caerau Uchaf, Sarnau 
  • Gostyngiad  gan ‘Bala Adventure & Watersports Centre

 

Am ychwaneg o wybodaeth cysylltwch ag aelod o’r pwyllgor: Jonathan Smith 07775658335

Os ydych am ymuno â’r Gymdeithas gallwch nodi eich diddordeb ar Dudalen aelodau y wefan hon, neu gallwch
gysylltu â’r gymdeithas drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt yma. Nodwch fod yn rhaid i’r rhai sydd yn cynnig Llety
gael eu graddio gan “ Visit Wales” neu rhyw gorff cyffelyb i gael eu cynnwys ar y wefan. Heb ei graddio ni chaiff eich
Llety ei gynnwys ar y wefan hyd yn oed os ydych yn aelod o’r Gymdeithas.