Cyswllt : Karen Bisby
Cyfeiriad : High Street, Bala
Ffôn : 07570 410034
A restrir yn : Cafes
Dyma flas Hufen Iâ go iawn – sydd yn cael ei baratoi gennyf yng nghegin fy ffermdy sydd wedi ei leoli ar ffordd Bwlch y Groes, rhwng Llanuwchllyn a Dinas Mawddwy.
Mae’r fferm yn dyddio’n ôl dros 400 mlynedd, gyda thraddodiad hir o bobi, a dwi’n hoffi meddwl y byddai’r holl gogyddion da sydd wedi byw yma o fy mlaen yn falch iawn o’m hufen iâ.
Dim ond hufen dwbl sydd wedi cael ei gynhyrchu ar ffermydd llaeth o Gymru yr ydwi’n ei ddefnyddio, sydd yn cael ei gyflenwi gan Tomlinson Dairies. Erbyn hyn mae gennyf hufen iâ ar gael mewn 17 blas gwahanol – ar gael mewn tybiau bychain unigol, neu dybiau maint canolig. Gallwch eu prynu o siopau ac atyniadau lleol.
Ac os ydych yn chwilio am rhywbeth arbennig i wneud argraff ar eich teulu a’ch ffrindiau… gallwn baratoi eich hoff hufen iâ yn arbennig ar eich cyfer. Neu beth am logi y beic hufen iâ ar gyfer priodas, parti neu ddathliad.