Cyfeiriad : Bwch yn Uchaf, Station Road, Llanuwchllyn, Bala. LL23 7DD
Ffôn : 01678 540983
A restrir yn : Caravans & Campsites
Mae'r safle wedi ei rannu yn ddwy ardal penodol:
Y cyntaf yn faesl ¾ erw sydd wedi ei ardystio gan y Camping & Caravnaning Club gyda 12 o bwyntiau trydan, mae 8 safle llawr caled. Mae'r caeau yn wastad ac yn rhannol cysgodol. Mae'r rhan hon o'r safle drws nesaf i Rheilffordd Llyn Bala.
Mae'r ail faes ar gyfer gwersyllwyr sydd angen mwy o le a phreifatrwydd gyda safleoedd ar gael ger yr afon. Nid yw'r safleoedd hyn wedi'u dyrannu, felly mae rhyddid i chi ddewis ble i wersylla (oni nodir yn wahanol).
Nid oes nemor ddim llygredd golau yma, fel y gallwch wersylla o dan y sêr a gyda synau'r afon yn llifo, defaid yn brefu a'r trên stêm yn pasio heibio 4 gwaith y dydd!
Mae'r bloc toiledau wedi ei leoli wrth mynedfa i'r safle. Mae'r bloc yn cynnwys cawodydd dynion a merched, toiledau, cyfleusterau i'r anabl a lle golchi llestri. Mae yna 2 doiled i lawr ar yr ail faes.
Dim ond 10 munud o gerddedsydd angen ei wneud i gyrraedd y dafarn leol 'Yr Eagles' a gyrru tua 10-munud i gyrraedd Llyn y Bala a drws nesaf i Reilffordd Llyn Tegid.