Cyflwyniad ir ardal: Bala, Penllyn, Ardal Llynnoedd Cymru
Mae’r Bala a Phenllyn wedi ei leoli yn rhan ddeheuol Parc Cenedlaethol Eryri, a elwir yn Ardal Llynnoedd Cymru. Mae’r ardal yn llawn o olygfeydd ysblennydd; mynyddoedd bron yn 3000 o droedfeddi, dyffrynoedd hudol s’yn cynnwys nentydd ac afonydd chwim, ambell i raeadr a llawer o goedwigoedd a llynnoedd. Gall ymwelwyr fwynhau ardal Y Bala aPhenllyn a’i defnyddio fel canolfan i ymweld a’r gweddill o Barc Cenedlaethol Eryri, Gogledd Cymru neu’r Canolbarth.
Tref farchnad fechan hanesyddol yw’r Bala sydd yn darparu pob gwasanaeth angenrheidiol ar gyfer ymwelwyr: banciau, swyddfa bost, archfarchnadoedd a siopau sydd yn gwerthu cynnyrch lleol gan gynnwys dau gigydd traddodiadol a “delis” yn cynnig nwyddau Cymreig a rhyngwladol. Enillodd y ddau gigydd lawer o wobrau ac ysgrifennwyd sawl erthygl clodfawr yn y wasg genedlaethol am gynnyrch Siop Y Gornel (pobydd, “deli” ac ychwaneg). Wrth gwrs mae llawer bwyty, gwesty a thafarn yn y Bala a’r pentrefi cyfagos yn darparu lluniaeth at fryd pawb.
Mae ardal Penllyn yn cynnwys tref y Bala a phlwyfi Llanuwchllyn, Llanycil, Llandderfel a Llangower. Saif llawer pentref arall yn yr ardal fel Cefnddwysarn, Sarnau, Llanfor, Llangwm, Fron Goch, Rhyduchaf, Parc, Glanrafon, Cynwyd, Llandrillo a thref Corwen. Ardal fynyddig a gwledig yw Penllyn a’i thraddodiadau wedi eu seilio ar yr iaith a’r diwylliant Cymreig.
Prif lynnoedd Ardal Llynnoedd Cymru yw Llyn Tegid, Llyn Efyrnwy, Llyn Celyn a Llyn Brenig, o’r rhain Llyn Tegid yw’r unig lyn naturiol. Caniata afonydd Tryweryn a’r Ddyfrdwy gyfleon i bysgota, canŵio a rafftio. Ar yr ochr Ddwyreiniol o Lyn Tegid mae Coedwig Penllyn sydd yn addas i gerddwyr a beicwyr. Mae’r mynyddoedd cystal a’r rhelyw o fynyddoedd Eryri, am eu bod yn dawelach mae’r profiad o’u cerdded yn rhagori. Yr Aran, Arenig a’rBerwyn yw’r prif fynyddoedd a nepell mae Cader Idris a’r Rhiniogydd. I’r rhai sydd yn hoffi crwydro’r ffyrdd mewn car neu ar gefn beic mae sawl ffordd dawel i’w tramwyo, rhai yn croesi’r mynyddoedd dros 1000 o droedfeddi gan gynnwys Bwlch y Groes (1800tr/545m) a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i brofi ceir modur.
Mae’r Bala a Phenllyn yn ardal rhagorol i ddarganfod diwylliant Cymreig ac yn ganolfan arbennig i grwydro Parc Cenedlaethol Eryri, Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae darpariaethau at ddant pawb gan gynnwys teuluoedd, cariadon, unigolion a phawb a diddordeb mewn natur a golygfeydd. Yn ogystal a hyn, o fewn ychydig filltiroedd mae traethau, gwarchodfeydd natur, gerddi, cestyll, amgueddfeydd, canolfannau ymwelwyr ac amryw o reilffyrdd.