Lakes, mountains, rapid rivers and waterfalls within the Snowdonia National Park
Rhan o Ardal Llynnoedd Cymru yn Eryri yw’r Bala a Phenllyn. Mae’r cyfanwaith o lynnoedd a mynyddoedd yn creu golygfeydd ysblennydd yn ogystal a’r cyfle i fwynhau gweithredu yn yr awyr agored. Prif lynnoedd yr ardal yw Llyn Tegid a Llynnoedd Efyrnwy, Celyn, Brenig, Cregennen a Thal y Llyn. Mewn taith undydd hamddenol gellir gweld y llynnoedd i gyd am eu bod yn gymharol agos at eu gilydd.
Llyn Tegidyw’r llyn enwocaf, gweler y llun, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, cartref y pysgodyn unigryw y Gwyniad. Mae’r llyn dros 3½ milltir o hyd, ¾ o led a mewn mannau mae ei ddyfnder yn 140 troedfedd. Ceir golygfeydd gwefreiddiol o’i amgylch ac fe’i ddefnyddir i bysgota, hwylio a chanŵio. Sefydlwyd dau glwb hwylio ar y llyn a mae modd i logi cychod ym mhen y Bala i’r llyn. Os am ymlacio gellir eistedd yn gyffyrddus ar fwrdd y Tren Bach (ffefryn gyda’r plant) sydd yn rhedeg ar arfordir dwyreiniol y llyn o Lanuwchllyn i’r Bala. Am fwy o wybodaeth am Lyn Tegid a’r bywyd gwyllt lleol cysylltwch â Swyddfa’r Warden ar lan y llyn yn y Bala neu gwyliwch wefan yr SNPA . Os am weld beth sydd yn digwydd ar y funud gweler gamera we’r SNPA sydd yn edrych o Swyddfa’r Warden i gyfeiriad yr Aran neu gamera we Clwb Hwylio y Bala sydd yn edrych ar draws y llyn o adeilad y clwb.
Ffurfiwyd y mynyddoedd rhyw 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl, dodwyd y rhai isaf o dan y môr tra crewyd y rhai uchaf a mwyaf garw gan losgfynyddoedd. Wedyn lluniwyd furf y dirwedd gan rewlifoedd. Mae mwy o wybodaeth ar dudalen
Daeareg Ardal y Bala. Prif fynyddoedd yr ardal yw:
Mae llawer o nentydd ac afonydd chwim yn yr ardal sydd yn caniatáu pysgota helgig. Hefyd mae amryw rhaeadr gwych yn yr ardal, mae Pistyll Rhaeadr yr uchaf yng Nghymru (240tr) i’w chael ar ochr ddwyreiniol y Berwyn, gweler y llun. Gellir ei chanfod nepell o Lanrhaeadr ym Mochnant.
Ar Afon Tryweryn rhwng Llyn Celyn a’r Bala yng Nghanolfan Tryweryn pan ollyngir llif o argae Llyn Celyn ceir cyfle i rafftio, canŵio neu ddefnyddio kayak yn y Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol, lleoliad tra poblogaidd.
Llifa’r Afon Ddyfrdwy i mewn ac allan o Lyn Tegid cyn cyrraedd Corwen a Llangollen. Yn Llangollen mae canolfan dŵr gwyn sefydlog o safon dŵr gwyn dosbarth 2-3.
Casglwyd y wybodaeth gan Dy Gwledig a Bythynnod Abercelyn (Abercelyn Country House)