Ceir digonedd o fywyd gwyllt yn ardal y Bala yn rhannol oherwydd y daeareg a’i hinsawdd amrywiol. Mae nifer o warchodfeydd a coedwigoedd ynghyd a chanolfannau ymwelwyr, teithiau a gwlyptiroedd iw canfod.
Oherwydd ei bwysicrwydd dynodwyd llawer o’r llefydd hyn gan bod ei bywyd gwyllt mor gyfoethog. Yn agos i’r Bala mae:
Yn y bryniau o gwmpas y cronfa ddŵr mae llwybrau cerdded niferus ac ar lan y dŵr y mae cuddfannau i wylio adar. Y Gymdeithas Gwarchod adar sy’n rheoli ‘r tir . Yma gellir gweld adar megis y croes bîg , cigfran, Boda tinwen a Mwyalch y mynydd .
Yn ogystal gallwch logi beics neu cymeryd rhan mewn gweithgareddau ar y dŵr. Beth am fynd o gwmpas y llyn un ai ar droed neu ar gefn beic?(12 milltir)
Amgylchynir Llyn Brenig gan 920 erw o goed a gweundir . Fe’i leolir ar fynydd Hiraethog. Gweithgareddu : Cerdded (10 milltir o gwmpas y llyn) , llwybrau natur a hanes, gweithgareddau ar y dŵr , pysgota, cuddfannau i wylio adar a man chwarae i blant. Yma hefyd mae ‘r ganolfan ymwelwyr gyda caffi ac arddangosfa sy’n olrhain hanes yr ardal. Yn agored :10:30- 16:30 yn ddyddiol rhwng Mawrth a Hydref. I fynd yno dilynwch y B4501 o Gerrig y Drudion.
Yn y bryniau ar ochor ogleddol y Fawddach heb fod yn bell o Lyn Penmaen. Yn y gwanwyn a’r haf dyma le delfrydol i weld adar megis y gwibedog brith, y tingoch a thelor y coed. Yma hefyd gallwch weld clychau glas a gloynnod byw fel y britheg. Yn ystod y gaeaf mi allwch weld y Pila gwyrdd, y llinos bengoch, y gylfin braff a’r cnocell frith leiaf. I hwyluso eich cylchdaith o gwmpas y warchodfa gallwch gerdded ar olion hen dramffordd y gwaith aur a fu.
Gwlyptir wedi ei leoli rhwng Arthog a’r Friog. Cerddwch o orsaf rheilffordd Morfa Mawddach . (mae mynediad yma i’r anabl). Rhan o’r hen gyforgors ydyw a oedd unwaith yn gorchuddio’r aber. Mae’n doreithiog o flodau a creaduriaid gan gynnwys yr iris felen , Cywarch ,Brenhines y weirglodd , charpiog y gors, ffa’r gors a’r llafnlys mawr.
Ar ochor ddeheuol aber y Fawddach ac i’r gorllewin o gymmer yr afon wnion mae ardal o wlyptir sy’n gynefin cyfoethog . Mae’r safle yn agos i lwybr Mawddach rhwng Pont y Werddu a Llyn Penmaen gyda mannau parcio a llwybrau.
Un o’r llefydd gorau ym Mhrydain ar gyfer beicio mynydd. Yma ceir llwybrau aml ddefnydd , lle chawrae i blant a chaffi gyda golygfeydd gwych.Am fwy o wybodaeth ewch at wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r maes parcio a’r ganolfan yn ymyl yr A470 y tu allan i bentref y Ganllwyd.
I’r de o Gadair Idris ac o fewn cymunedau Machynlleth, Corris, Ceinws, Dinas Mawddwy, Pennal ac Aberangell.
Yn y goedwig mae cymysgedd o gynefinoedd a rhywogaethau iw canfod. O gwmpas yr hen weithfeydd mae’r adeiladau , adfeilion a ceudyllau yn bwysig i blanhigion ac anifeiliaid gan gynnwys ystlumod. Y bywyd gwyllt hwn sy’n gwneud yr ardal mor diddorol i ymweld a hi.
Cewch ddewis o lwybrau : er engraifft
Canolfan ymwelwyr a thaflenni manwl i’ch cyflwyno i’r warchodfa. Gallwch ymweld a’r twyni tywod a’r gors ar rwydwaith o lwybrau