What can be found in the great outdoors
Mae ystod helaeth o weithgareddau awyr agored i’w cael yn ardal y Bala, gyda chyfleusterau sydd yn enwog yn rhyngwladol. Cynhaliwyd Pencampwriaeth y Byd am ganŵio dŵr-gwyn yma a mae Triathlonau a chystadlaethaubeicio fel y “Wild Wales Challenge” yn cael eu cynnal yn rheolaidd. Mae gweithgareddau ar gyfer pawb, beth bynnag eu harbenigrwydd yn blant ac oedolion. Cynnwys y gweithgareddau sydd ar gael rafftio dŵr-gwyn a chanŵio, hwylio a chanŵio ar lynnoedd, cerdded mynyddoedd mewn tair cadwyn o fynyddoedd, beicio mynyddmewn canolfannau at y pwrpas a beicio hamddenol ar lwybrau a ffyrdd tawel. I’r rhai mwyaf mentrus mae’r rhestr bron yn ddibendraw.
Mae Canolfan Tryweryn (Canolfan Rafftio Dŵr-Gwyn Cenedlaethol) hefyd yn caniatau canŵio dŵr-gwyn; mae’r fangre hon yn ganolfan rhyngwladol lle y trefnwyd Penampwriaeth Canŵio Dŵr Gwyllt y Byd ym 1981 a 1995 a Phencampwriaeth Canŵio Ieuengach Dŵr Gwyllt y Byd yn 2002. Bydd taith rafftio i lawr “y fynwent” a’r “naid ski” yn brofiad bythgofiadwy. Nepell ar yr afon Ddyfrdwy mae canolfan sefydlog dŵr-gwyn arall Gogledd Cymru yn Llangollen, lle y ceir cyfle i rafftio a chanŵio.
Llyn Tegid yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, gyda’r mynyddoedd yn y cefndir mae’n fan arbennig i hwylio a chanŵio. Mae cychod hwylio, bordiau hwylio canŵs a kayaks ar gael a mae’n fan perffaith i ddysgu trin canŵ cyn mentro’r dŵr-gwyn.
Yn ardal y Bala mae tair cadwyn o fynyddoedd tawel lle y gallwch ddewis unai cerdded hamddenol ar y llethrau a’r dyffrynoedd sydd yn addas i blant neu teithiau mwy egnïol at yr uchafbwyntiau oddeutu 3000 o droedfeddi. Mae llawer o lwybrau cyhoeddus y gallwch eu defnyddio a’u cyfuno â thaith ar y tren bach. Cynigia mynyddoedd Yr Arenig lawer taithgyda golygfeydd ysblenydd ynghanol unigeddau Penllyn. Mae taith Crib yr Aran yn sefyll allan fel taith ardderchog sy’n cynnwys golygfeydd o Lyn Tegid. Heblaw teithiau cerdded ardderchog ar Fynyddoedd Y Berwyn gwelir Bistyll Rhaeadr sef y rhaeadr uchaf yng Nghymru.
Mae cyfleon hefyd i feicio yn hamddenol – yn addas i deuluoedd – ar ffyrdd tawel gyda arwyddion llwybrau beicio, traciau oddi amgylch llynoedd neu ar hyd hen lwybr tren gyda golygfeydd o aber y Fawddach. Os am sialens mae amryw daith fynyddig ar ffyrdd drwy fylchau sydd dros 1000 tr o uchder fel Bwich y Groes y bwlch uchaf yng Nghymru sydd yn adnabyddus yn rhyngwladol.
I’r rhai sydd am feicio mynydd mae llwybrau drwy goedwigoedd ac ar draws gweundir i’w cael a mae canolfanau beicio mynydd gerllaw gyda llwybrau wedi eu marcio, yn cynnwys Coed y Brenin, a choedwigoedd Penmachno a Llandegla. Yng nghanolfan Coed-y-Brenin sydd yn adnabyddusyn rhyngwladol gall beicwyr herio “Cefn y Ddraig” (30km), “Bwystfil y Brenin” (38km) neu y MBR (18km), yn yr un safle mae cyfleon i deuloedd feicio neu gerdded llwybrau yn y goedwig.
neu ar gyfer y mwyaf mentrus mae nifer o weithgareddau i brysuro curiad y galon fel:
Mae canolfanau sydd yn abl i drefnu’r oll o’r gweithgareddau hyn. Dim ond braslun o weithgareddau awyr agored sydd ar gael yn yr ardal a nodir yma yn y Bala, canolfan geiwgareddau awyr agored Eryri.
Gwybodaeth gan Ray Hind(Tywyswr Mynydd a Hyfforddwr Kayak)